Gallwn ond rhoi trwyddedau drôn i weithredwyr dronau masnachol.
I hedfan drôn ar dir Cyngor Caerdydd, gwnewch gais am drwydded ffilm a thicio’r blwch ffilmio o’r awyr neu ddrôn. Codir tâl ychwanegol o £250, a rhaid i chi roi o leiaf wythnos o rybudd.
Cyn gwneud cais am drwydded, bydd angen:
- tystysgrif gweithredwr dronau yr Awdurdod Hedfan Sifil
- yswiriant dronau,
- Yswiriant Atebolrwydd Cyhoeddus, ac
- asesiad risg manwl gyda mapiau sy’n dangos yn glir esgyn, llwybr hedfan, a glanio.
Ni fydd ceisiadau anghyflawn yn cael eu hystyried.
Byddwn yn ystyried ceisiadau drôn munud olaf dim ond os ydych wedi cyflwyno’r holl waith papur cywir. Cost hyn fydd £500.
Mae hyn hefyd yn berthnasol i gwmnïau yng Nghaerdydd, a’r gost i’r rhain fydd £250 am geisiadau drôn munud olaf.