Cod Ymarfer Gwneuthurwyr Ffilmiau

Cyfrifoldeb y cwmni cynhyrchu a’i gyflogeion yn unig yw unrhyw ffilmio a wneir ac unrhyw atebolrwydd cysylltiedig. Pryd bynnag y mae’r ddogfen hon yn cyfeirio at ffilm, mae’r term yn cynnwys yr holl gyfryngau gweledol eraill fel teledu, hysbysebion, fideos corfforaethol a cherddoriaeth, cebl, lloeren, gwefannau ac ati.

Mae’r cod ymarfer hwn yn gytundeb gwirfoddol. Mae Swyddfa Ffilm Caerdydd yn gofyn i bob cynhyrchiad gytuno i’r cod ymarfer cyn ffilmio.

Ni fydd Swyddfa Ffilm Caerdydd yn derbyn unrhyw atebolrwydd am golled, ariannol neu fel arall, yr honnir ei fod wedi digwydd o ganlyniad i’r canllawiau hyn.

Nid yw’r canllawiau hyn yn gynhwysfawr ac efallai y byddant yn newid.

Mewn rhai amgylchiadau efallai y bydd Cyngor Caerdydd, yr Heddlu, gwasanaethau brys eraill neu berchnogion lleoliadau o’r farn bod angen gosod amodau ychwanegol ar wneuthurwyr ffilmiau.

Cyfrifoldeb y cwmni cynhyrchu yw sicrhau bod ei gyflogeion a’i gontractwyr yn cydymffurfio â rheoliadau iechyd a diogelwch cyfredol wrth ffilmio ar leoliad.

8. Rhaid asesu pob lleoliad ar gyfer risg a pherygl. Lle bo angen, dylid ymgynghori â gweithiwr iechyd a diogelwch proffesiynol a dylid llunio adroddiad Asesiad Risg llawn a’i ddosbarthu i’r holl gyflogeion, cyfranwyr a chontractwyr. Dylai Swyddfa Ffilm Caerdydd hefyd dderbyn copi.

9. Dylai person â chymwysterau cymorth cyntaf fod yn bresennol bob amser yn ystod y ffilmio.

10. Dylai unrhyw reolaeth draffig y bernir ei bod yn angenrheidiol gael ei chyflawni gan bersonél cymwys sydd wedi’u cymeradwyo gan Bennod 8.

11. Tra ar y briffordd gyhoeddus, rhaid i bob aelod o’r tîm cynhyrchu wisgo festiau neu siacedi llachar.

Mae gwneuthurwyr ffilmiau ar leoliad yn ymwelwyr a dylent fod yn sensitif i’r gymuned y maent yn gweithio ynddi. Dylai aelodau’r cyhoedd gael eu trin â chwrteisi ac ystyriaeth bob amser.
12. Dylai cynyrchiadau y mae Swyddfa Ffilm Caerdydd o’r farn y byddant yn cael effaith ar y gymuned leol roi o leiaf saith diwrnod o rybudd drwy lythyr i breswylwyr a/neu fusnesau perthnasol. Mae angen anfon copi o’r llythyr i Swyddfa Ffilm Caerdydd cyn i’r llythyr gael ei ddosbarthu. Mae angen rhoi rhybudd hefyd i unrhyw gymdeithasau preswyl neu fusnes perthnasol. Os yw’r cyfnod rhybudd yn llai na saith diwrnod, dylai cynrychiolydd y cwmni cynhyrchu gysylltu ag unrhyw berchnogion eiddo yr effeithir arnynt yn bersonol.

13. Mae angen i gynyrchiadau sy’n gofyn am gau ffyrdd a/neu reoli traffig roi cyfnodau rhybudd ychwanegol, fel y disgrifir mewn deddfwriaeth cau ffyrdd a chan Wasanaethau Priffyrdd.

14. Dylid cadw sŵn mor isel â phosibl, yn enwedig yn ystod oriau anghymdeithasol (fel arfer rhwng 10pm ac 8am). Yn y rhan fwyaf o amgylchiadau, dylid defnyddio generaduron tawel neu faffl. Dylid lleihau’r sŵn o ‘walkie talkies’ gyda’r nos trwy ddefnyddio’r dechnoleg berthnasol.

15. Dylai aelodau’r criw gadw mynediad at gartrefi a busnesau yn glir bob amser, oni trafodir fel arall gyda’r unigolion dan sylw.

16. Ni ddylai goleuadau nac offer eraill achosi perygl i’r cyhoedd. Dylai ceblau fod 2.6m uwchben y droedffordd a 5.2m uwchben y lôn gerbydau neu wedi’u gorchuddio â matiau wrth groesi palmentydd. Lle bo’n briodol, dylid defnyddio conau rhybuddio a thâp perygl.

17. Ni ddylai unrhyw berygl gael ei achosi gan oleuadau sy’n disgleirio.

18. Os yw ffilmio’n rhwystro troedffordd, rhaid creu llwybr diogel amgen sy’n cael ei oruchwylio ar gyfer cerddwyr. Rhaid i gyrbau isel hefyd fod ar gael lle bo angen.

19. Dylid sicrhau trefniadau parcio amgen i breswylwyr mewn rhai amgylchiadau pan ofynnir amdanynt gan Swyddfa Ffilm Caerdydd a’r Gwasanaethau Parcio.

20. Dylid rhoi sylw i anghenion ychwanegol aelodau anabl o’r gymuned i sicrhau bod modd digonol iddynt gael mynediad at gartrefi a busnesau, a’u gadael.

Dylid cyfyngu gweithgareddau gwneuthurwyr ffilmiau i ardaloedd ac amseroedd y rhoddwyd caniatâd ar eu cyfer.

21. Dim ond yn yr ardaloedd y cytunwyd arnynt gan Gyngor Caerdydd y dylid parcio cerbydau cynhyrchu. Dylid diffodd injans wrth gyrraedd. Ni ddylai cast na chriw barcio yng nghyffiniau uniongyrchol lleoliad oni bai bod mannau parcio yn cael eu darparu. Ni ddylid parcio cerbydau criw ar balmentydd neu gyrbau.

22. Dylid cael diodydd a phrydau bwyd mewn ardaloedd dynodedig yn unig.

23. Rhaid cadw at reolau ardaloedd dim ysmygu. Pan ganiateir ysmygu, rhaid diffodd sigaréts yn y blwch llwch a ddarperir gan y cwmni.

24. Ni ddylai aelodau’r criw dresmasu ar eiddo cyfagos na mynd i mewn i ardaloedd lleoliad y mae’r perchennog wedi nodi na ellir eu defnyddio ar gyfer ffilmio.

 

Mae gwneuthurwyr ffilmiau’n westeion mewn lleoliad a rhaid iddynt drin eiddo cyhoeddus a phreifat gyda’r parch mwyaf.

25. Dylai biniau sbwriel fod ar gael gan y cwmni a rhaid eu gwagio’n rheolaidd. Cyfrifoldeb y Cwmni Cynhyrchu yw sicrhau bod yr holl sbwriel yn cael ei glirio o’r lleoliad ar unwaith.

26. Gofynnir i Gwmnïau Cynhyrchu sy’n gweithio ar leoliad yng Nghaerdydd ailgylchu sbwriel lle bynnag y bo modd.

27. Dylid darparu deunyddiau amddiffynnol neu orchuddion llwch lle bo’n briodol i orchuddio dodrefn a lloriau ar gyfer ffilmio mewnol.

28. Ni ddylai gwrthrychau sy’n perthyn i’r lleoliad gael eu symud heb ganiatâd penodol y perchnogion.

29. Rhaid adfer yr holl arwyddion neu eiddo sy’n cael eu symud neu eu cuddio at ddibenion ffilmio ar ôl cwblhau’r ffilmio. Rhaid symud yr holl arwyddion a godwyd i gyfeirio’r Cwmni Cynhyrchu i’r lleoliad.

30. Rhaid i’r cwmni wneud iawn am unrhyw ddifrod a achoswyd gan ei weithgareddau yn syth ar ôl ffilmio a rhaid iddo hysbysu pob parti perthnasol.

31. Pryd bynnag y bo angen, rhaid i’r Cwmni Cynhyrchu sicrhau bod y lleoliad a’r cyffiniau yn cael eu diogelu gan staff diogelwch.

32. Dylai’r aelod o’r criw sy’n gyfrifol am y lleoliad ei wirio’n drylwyr cyn gadael er mwyn sicrhau bod yr eiddo wedi’i adfer i’w gyflwr gwreiddiol ac nad oes unrhyw dystiolaeth o ffilmio.