Os oes gennych ddiddordeb yn ffilmio yng Nghaerdydd, gallwch gyflwyno cais ar-lein.
Pan fyddwch yn cyflwyno eich cais, rhaid i chi hefyd lanlwytho:
- Asesiad Risg, ac
- Yswiriant Atebolrwydd Cyhoeddus (dim llai na £5 miliwn)
Ffioedd trwyddedau ffilm
Bydd angen trwydded ffilmio arnoch ar gyfer pob ffilmio masnachol mewn stryd neu ofod sy’n eiddo i’r cyngor. Dylid digwyl 5 diwrnodau gwaith I dderbyn trwydded. Bydd rhaid talu ffi weinyddol o £250 + TAW yn ogystal a ffi y trwydded ar gyfer ceisiadau funed olaf.
Mae tir sy’n berchen i Gyngor Caerdydd yn cynnwys:
Ystadau tai cyngor
- Coed Y Gores yn Llanedeyrn,
- Hollybush Estate yn Whitchurch,
- Fflatiau Lydstep yn Gabalfa,
- Tŷ Loudoun yn Butetown,
- Channel View yn Grangetown
Company | Fee |
---|---|
Cwmni cynhyrchu leol | £150 + TAW |
Cwmnïau cynhyrchu cenedlaethol a rhanbarthol | £250 + TAW |
Elusen | Gellir codi ffi am brosiectau wedi eu comisiynu. Cysylltwch â’r swyddfa. |
Myfyriwr | Dim ffi |
Os byddwch yn rhoi llai na 48 awr o rybudd am ganslo, codir y gyfradd lawn arnoch.
Os byddwch yn rhoi mwy na 48 awr o rybudd am ganslo, codir 50% o’r gyfradd lawn arnoch unwaith y byddwch wedi derbyn eich trwydded.
Gweler ein polisi canslo.
Trwyddedau dronau
Gallwn ond rhoi trwyddedau drôn i weithredwyr dronau masnachol.
I hedfan drôn ar dir Cyngor Caerdydd, gwnewch gais am drwydded ffilm a thicio’r blwch ffilmio o’r awyr neu ddrôn. Codir tâl ychwanegol o £250, a rhaid i chi roi o leiaf wythnos o rybudd.
Cyn gwneud cais am drwydded, bydd angen:
- tystysgrif gweithredwr dronau yr Awdurdod Hedfan Sifil
- yswiriant dronau,
- Yswiriant Atebolrwydd Cyhoeddus, ac
- asesiad risg manwl gyda mapiau sy’n dangos yn glir esgyn, llwybr hedfan, a glanio.
Ni fydd ceisiadau anghyflawn yn cael eu hystyried.
Byddwn yn ystyried ceisiadau drôn munud olaf dim ond os ydych wedi cyflwyno’r holl waith papur cywir. Cost hyn fydd £500.
Mae hyn hefyd yn berthnasol i gwmnïau yng Nghaerdydd, a’r gost i’r rhain fydd £250 am geisiadau drôn munud olaf.
Gwybodaeth i Fyfyrwyr
Os ydych yn fyfyriwr sy’n bwriadu ffilmio yng Nghaerdydd, mae’n rhaid bod gennych:
- Trwydded ffilmio,
- Yswiriant Atebolrwydd Cyhoeddus o’ch coleg neu brifysgol ac,
- Asesiad risg
Ni chaniateir i chi:
- Ffilmio ar leoliad am fwy na thri diwrnod,
- Defnyddio drôn i ffilmio