Rheoli traffig a pharcio

Mae’n rhaid i chi gysylltu â ni os ydych yn bwriadu ffilmio ar briffordd neu droedffordd, gan gynnwys unrhyw Reoli Traffig neu Aros a Mynd.

Byddwn yn trefnu cyfarfod safle i drafod eich gofynion a darparu’r staff a’r offer angenrheidiol.

Cost Gorchymyn Rheoli Traffig Dros Dro yw £2800.

Unwaith bydd eich ffilmio wedi’i gymeradwyo, eich cyfrifoldeb chi yw hysbysu:

  • preswylwyr – bydd llythyr preswylydd yn cael ei gytuno gyda ni,
  • cynghorwyr lleol, a
  • Heddlu De Cymru – dim ond os oes angen i chi gofnodi rhif digwyddiad

Mae hyn yn unol â Chod Ymarfer Gwneuthurwyr Ffilm sy’n dangos canllawiau i gwmnïau cynhyrchu sy’n ffilmio yng Nghaerdydd.

Os oes angen i chi brynu nifer o leoedd talu ac arddangos, cysylltwch â ni.