Os oes angen i chi ganslo’ch saethu, rhowch wybod yn ysgrifenedig i’r aelod staff perthnasol (trwy e-bost – gan ddyfynnu cyfeirnod eich trwydded ac enw’r rhaglen). Mae ffi canslo o 50% o gyfanswm y swm sy’n ddyledus yn daladwy (unwaith y rhoddir caniatâd) os darperir mwy na 48 awr o rybudd cyn yr amser cychwyn saethu. Os rhoddir rhybudd llai na 48 awr ’yn ysgrifenedig, y swm llawn sy’n daladwy.
Rydym yn gwybod y gall gofynion ffilmio newid yn rheolaidd ac yn aml ar fyr rybudd a byddwn yn gwneud ein gorau glas i sicrhau hyblygrwydd. Fodd bynnag, yn dibynnu ar y cais, efallai y codwyd costau y bydd angen eu talu, byddwn yn ymdrechu i’ch hysbysu o’r rhain cyn gynted â phosibl.
Mae’n debygol y bydd rhai costau gweinyddu wedi digwydd a ni ellir eu had-dalu.
Sylwch fod taliadau am wasanaethau ychwanegol fel ataliadau parcio neu hysbysiadau cau ffyrdd, ond heb fod yn gyfyngedig iddynt, yn agored i bolisïau canslo trydydd parti ac oherwydd byddant yn cael eu hadolygu fesul achos. Ni allwn warantu ad-daliad llawn o’r taliadau hyn.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau am eich cais penodol, trafodwch gyda’r aelod o staff priodol.