O barciau lleol a chaeau chwarae i warchodfeydd natur lleol a pharciau gwledig, mae gan Gaerdydd lawer i’w gynnig.
Mae gennym 22 o safleoedd sydd wedi ennill y Faner Werdd, gan gynnwys::
- Parc Bute,
- Gerddi Sophia,
- Parc Fictoria,
- Caeau Llandaf,
- Caeau Pontcanna,
- Parc y Rhath, a
- Pharc Hamadryad.
Mae’r holl barciau ar gael ac mae croeso i ffilmio.


Mae gennym barciau gyda:
- goleudy,
- llyn cychod,
- parc sblasio,
- bandstands,
- cored,
- coetir, a
- cherflun o Billy’r Morlo.
Wedi’u ffilmio ym mharciau Caerdydd:
- Casualty,
- Lost Boys and Fairies, ac
- Antiques Roadshow.
