Mae gan Ynys Echni gymeriad ynys unigryw, gydag ymdeimlad o anialwch, pellenigrwydd ac unigrwydd. Mae gan yr ynys olygfeydd helaeth o arfordiroedd Cymru a Lloegr. Yn llai na milltir o led, mae’r ynys fechan yn berl cudd diddorol ym Môr Hafren.
Mae Ynys Echni wedi’i dynodi’n Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig ac yn Warchodfa Natur Leol. Mae Prosiect Ynys Echni yn cadw nodweddion naturiol a diwylliannol yr ynys, fel:
- glaswelltir arforol,
- barics Fictoraidd,
- nythfeydd adar môr, a
- bynceri amser rhyfel.




