Mae canolfan gelfyddydau eiconig yr Eglwys Norwyaidd yn un o adeiladau nodedig y brifddinas. Wedi’i lleoli yng nghanol Bae Caerdydd, mae’n cynnig golygfeydd panoramig godidog dros y glannau.
Yn eglwys i forwyr Norwyaidd gynt, mae’r adeilad unigryw yn dyddio’n ôl i’r chwyldro diwydiannol, pan mai Dociau Caerdydd oedd dociau allforio glo mwyaf y byd.

