Canol y Ddinas

Yn bennaf, gall canol y ddinas gael ei ddefnyddio ar gyfer unrhyw leoliad oherwydd y cymysgedd o arddulliau adeiladau. Mae’n cynnig adeiladau mawreddog a hanesyddol ochr yn ochr â rhai sgleiniog a newydd.

Mae gan ganol y ddinas:

  • stadiwm rygbi trawiadol,
  • canolfannau siopa,
  • marchnad dan do Fictoraidd (a oedd ar un adeg yn safle Carchar Caerdydd), a
  • Gorsaf Ganolog Caerdydd (sy’n dyddio’n ôl i 1850 wedi’i lleoli yn y Sgwâr Canolog sy’n sgwâr mawr i gerddwyr)

Mae gan Stryd y Santes Fair arcedau gwych gan gynnwys Castell rhestredig Gradd II ac Arcedau Brenhinol a rhestr drawiadol o adeiladau Gradd II sy’n ddelfrydol ar gyfer ffilmio megis:

  • Tŷ Hodge,
  • Tŷ Elgin (hen siop adrannol Howells a hen adeilad NatWest Bank.)

Wedi’u ffilmio yng nghanol y ddinas:

  • Doctor Who,
  • Infinite, a
  • Gangs of London.