Ffilmio yng Nghaerdydd

Os oes gennych ddiddordeb yn ffilmio yng Nghaerdydd, gallwch gyflwyno cais ar-lein.

Pan fyddwch yn cyflwyno eich cais, rhaid i chi hefyd lanlwytho:

  • Asesiad Risg, ac
  • Yswiriant Atebolrwydd Cyhoeddus (dim llai na £5 miliwn)

Ffioedd trwyddedau ffilm

Bydd angen trwydded ffilmio arnoch ar gyfer pob ffilmio masnachol mewn stryd neu ofod sy’n eiddo i’r cyngor. Dylech roi saith diwrnod o rybudd cyn i’r ffilmio ddechrau.

Mae tir sy’n berchen i Gyngor Caerdydd yn cynnwys:

  • Coed Y Gores yn Llanedeyrn,
  • Hollybush Estate yn Whitchurch,
  • Fflatiau Lydstep yn Gabalfa,
  • Tŷ Loudoun yn Butetown,
  • Channel View yn Grangetown
CompanyFee
Cwmni cynhyrchu leol£150 + TAW
Cwmnïau cynhyrchu cenedlaethol a rhanbarthol£250 + TAW
ElusenGellir codi ffi am brosiectau wedi eu comisiynu. Cysylltwch â’r swyddfa.
MyfyriwrDim ffi

Os byddwch yn rhoi llai na 48 awr o rybudd am ganslo, codir y gyfradd lawn arnoch.
Os byddwch yn rhoi mwy na 48 awr o rybudd am ganslo, codir 50% o’r gyfradd lawn arnoch unwaith y byddwch wedi derbyn eich trwydded.

Gweler ein polisi canslo.

Trwyddedau dronau

Gallwn ond rhoi trwyddedau drôn i weithredwyr dronau masnachol.

I hedfan drôn ar dir Cyngor Caerdydd, gwnewch gais am drwydded ffilm a thicio’r blwch ffilmio o’r awyr neu ddrôn. Codir tâl ychwanegol o £250, a rhaid i chi roi o leiaf wythnos o rybudd.
Cyn gwneud cais am drwydded, bydd angen:

  • tystysgrif gweithredwr dronau yr Awdurdod Hedfan Sifil
  • yswiriant dronau,
  • Yswiriant Atebolrwydd Cyhoeddus, ac
  • asesiad risg manwl gyda mapiau sy’n dangos yn glir esgyn, llwybr hedfan, a glanio.

Ni fydd ceisiadau anghyflawn yn cael eu hystyried.

Gwybodaeth i Fyfyrwyr

Os ydych yn fyfyriwr sy’n bwriadu ffilmio yng Nghaerdydd, mae’n rhaid bod gennych:

  • Trwydded ffilmio,
  • Yswiriant Atebolrwydd Cyhoeddus o’ch coleg neu brifysgol ac,
  • Asesiad risg

Ni chaniateir i chi:

  • Ffilmio ar leoliad am fwy na thri diwrnod,
  • Defnyddio drôn i ffilmio