Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth am sefydliadau allweddol, darparwyr hyfforddiant, a stiwdios diwydiannau ffilm, teledu a chreadigol yng Nghymru.
Screen Alliance Wales
Screen Alliance Wales (SAW) yw’r porth rhwng gweithwyr y diwydiannau ffilm a theledu. Gallwch ddefnyddio gwefan Screen Alliance Wales i ddod o hyd i:
- swyddi gwag,
- gweithwyr proffesiynol yn y diwydiant, a
- chyfleoedd addysg a hyfforddiant.
Sgil Cymru
Mae Sgil Cymru yn cynnig tri math gwahanol o brentisiaethau cyfryngau creadigol a digidol a hefyd gyrsiau uwchsgilio pwrpasol ar gyfer gweithwyr proffesiynol y diwydiant.
Ffilm Cymru
Ffilm Cymru yw asiantaeth datblygu diwydiant ffilm Cymru, ac mae’n darparu ystod o raglenni i ddatblygu a chynnal diwydiant ffilm cryf yng Nghymru.
Stiwdios
Wolf Studios Cymru
Mae gan Stiwdios Wolf Cymru gyfanswm maint o 255,000 troedfedd sgwâr, gan gynnwys 137,000 troedfedd sgwâr o ofod llwyfan a 7 llwyfan i gyd.
Mae’r cyfleuster yn darparu’r gofodau llwyfan mwyaf a thalaf sydd ar gael yng Nghymru, gydag un llwyfan yn mesur 57.5 troedfedd.
Dragon Studios
Mae gan Dragon Studios gyfleuster o’r radd flaenaf sy’n cynnig:
- 5 llwyfan sain,
- swyddfeydd cynhyrchu,
- gweithdai adeiladu set,
- mannau swyddfa hyblyg, a
- pharcio pwrpasol.
Mae hefyd yn gartref i Fivefold Studios, arbenigwyr mewn cynhyrchu rhithwir. Mae eu gwasanaethau’n cynnwys:
- cylch cynhyrchu llawn (gan gynnwys effeithiau gweledol o fewn y camera),
- cyfansoddi amser real, a
- dal perfformiadau.
Mae’n gweithio ar brosiectau ffilm, teledu, digwyddiadau byw, darlledu a gemau.
Wedi’i lleoli 20 munud o Gaerdydd, mae’r stiwdio yn blaenoriaethu cynaliadwyedd, gydag arferion ecogyfeillgar wedi’u hymgorffori yn eu gweithrediadau.