Mae Caerdydd wedi darparu amrywiaeth eang o leoliadau ar gyfer The Guest, Lost Boys and Fairies, Doctor Who, Casualty, Havoc, Infinite, Industry, Black Cake, Famous Five, Wolf Hall, His Dark Materials, A Discovery of Witches a llawer mwy.
Rydym yn ddinas fach gyda lleoliadau trawiadol. P’un a ydych yn chwilio am adeiladau cyfnod, rhodfeydd llydan, tirweddau dinas newydd, strydluniau, parciau a mannau gwyrdd neu lan ddŵr, mae gan Gaerdydd y cyfan.
Mae pob cyfnod o ffilmio masnachol yng Nghaerdydd yn gofyn am gais am drwydded ffilmio i’w dderbyn o leiaf 5 diwrnod gwaith cyn y ffilmio. Nodir ffioedd trwydded a ffioedd lleoliad lle bo’n berthnasol. Ar gyfer eich holl ofynion lleoliad cysylltwch â ni.
Loading posts…
